↑↑↓↓←→←→ⒷⒶ Войти !bnw Сегодня Клубы

https://www.youtube.com/watch?v=Uxz7WkJvtKk

Mae nhw eisiau dynion pymtheg stôn,
Lawr y lôn, lawr y lôn,
Mae nhw eisiau breichiau hyd y bôn,
Lawr y lôn.
Os oes gen ti’r gyts, os oes gen ti’r fron,
Mae nhw’n talu’n dda yn ôl y son,
Mae crochan aur y leprecon,
Lawr y lôn.

Dwi wedi rhoi fy oes i’r gwaith,
Lawr y lôn, lawr y lôn,
Dwi wedi slafio oriau maith,
Lawr y lôn.
Dwi wedi byw mewn cytiau llaeth,
Dwi wedi casglu llawer craith,
Ond mi rydwi dal i neud y daith,
Lawr y lôn, lawr y lôn.

Mae’n rhaid i mi fynd ar ei ôl
Lawr y lôn, lawr y lôn
Mae’n fywyd gwell na byw ar y dôl
Lawr y lôn.

Does gen i’m gobaith job yn nes,
Mae’n rhaid i minne bacio’n nghês,
Mae angen rhai sydd angen pres,
Lawr y lôn.

Mae nhw eisiau dynion pymtheg stôn,
Lawr y lôn, lawr y lôn,
Mae nhw eisiau breichiau hyd y bôn,
Lawr y lôn.
Os oes gen ti’r gyts, os oes gen ti’r fron,
Mae nhw’n talu’n dda yn ôl y son,
Mae crochan aur y leprecon, Lawr y lôn.

Dwi wedi rhoi fy nhyddiau i gyd
Lawr y lôn, lawr y lôn,
Gan gledu wedi bod gyhyd
Lawr y lôn.
Ond heddiw mae ‘di dod yn bryd
I hel meddyliau du o hyd
Beth ges i nol am ffeirio ‘myd
Lawr y lôn.

Mae’n rhaid mynd adre, mynd tua thre,
Fyny’r lôn, i fyny’r lôn,
Gw’n inne’n iawn fod glasach ne’,
Fyny’r lôn.
Ar y rig neu’r motorway,
Mi rown ni fwy na double pay,
Am haul y bore mewn un lle
Fyny’r lôn.

Mae nhw eisiau dynion pymtheg stôn,
Lawr y lôn, lawr y lôn,
Mae nhw eisiau breichiau hyd y bôn,
Lawr y lôn.
Os oes gen ti’r gyts, os oes gen ti’r fron,
Mae nhw’n talu’n dda yn ôl y son,
Mae crochan aur y leprecon,
Lawr y lôn.

#1YB35T / @goren / 2194 дня назад

ipv6 ready BnW для ведрофона BnW на Реформале Викивач Котятки

Цоперайт © 2010-2016 @stiletto.